14 Gorffennaf 2015
Annwyl Alun
Cysylltedd grid a datblygiad ynni adnewyddadwy morol ar Ynys Môn
Ar hyn o bryd, mae'r Pwyllgor Menter a Busnes yn cynnal ymchwiliad i'r economi morol yng Nghymru, gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer cynhyrchu ynni morol adnewyddadwy, manteision economaidd posibl y sector hwnnw, a pha mor effeithiol yw'r gefnogaeth ar gyfer y sector. Mewn cyfarfod diweddar, clywsom dystiolaeth a allai fod yn berthnasol i gylch gwaith eich Pwyllgor.
Wrth ymweld ag Ynys Ynni Môn ar 9 Gorffennaf, clywsom am y cyfleoedd sylweddol ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy morol, a'r ffaith bod Ynys Môn yn gobeithio bod yn ganolfan rhagoriaeth fyd-eang yn y sector hwn. Clywsom fod nifer o gwmnïau rhyngwladol â diddordeb mewn buddsoddi a / neu adleoli i'r ardal. Mae cyfleoedd yn bodoli i gynhyrchu trydan ar Ynys Môn ac o'i chwmpas, yn ogystal â sefydlu clwstwr o gwmnïau arbenigol yn yr ardal a allai arwain at arloesedd yn y sector, gyda chyfleoedd posibl ar gyfer gweithgynhyrchu yn ogystal ag allforio offer ac adeiladu safleoedd mewn mannau eraill yn y DU a thu hwnt.
Fodd bynnag, clywsom hefyd mai sicrhau cysylltedd grid digonol oedd y pwysicaf o'r tri peth pennaf sydd eu hangen ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy morol ar Ynys Môn yn y dyfodol, ynghyd â sicrhau'r caniatâd angenrheidiol ar gyfer datblygiadau a'r cyllid (buddsoddiad a phris y trydan).
Uchelgais Ynys Ynni yw cynhyrchu 140MW o drydan adnewyddadwy morol, ac mae'n ystyried y bydd angen cysylltedd grid sy'n galluogi allforio 150MW. Fodd bynnag, clywsom fod cysylltiadau grid yn aml yn cael eu darparu yn adweithiol mewn ymateb i geisiadau penodol, ond bod angen dull mwy rhagweithiol oherwydd natur y diwydiant fel sector sy'n datblygu, a nifer y cwmnïau sy'n ystyried Ynys Môn fel lleoliad. Mae'r dull adweithiol sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd yn ymddangos i fod yn rhwystr i ddatblygiad y sector.
Mae Rhodri Glyn Thomas AC hefyd wedi nodi hyn yn ei waith yn y maes hwn ar ran Pwyllgor y Rhanbarthau.
Mae'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd eisoes wedi ystyried cynhyrchu ynni yn y Cynulliad hwn, ac rwy'n deall eich bod ar fin dychwelyd i'r maes hwn. O ganlyniad, rydym yn teimlo y gallai fod yn ddefnyddiol inni rannu'r dystiolaeth a glywsom yn y maes hwn wrth i chi ystyried eich gwaith yn y dyfodol.
Yn gywir,
William Graham
Cadeirydd